2 Thessalonians 1:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Diol vv ch a ddlyem y Dduw yn oystadol trosoch, vroder, val y mae yn addas, am vot eich ffydd yn cynnyddu yn ðirvawr, a’ bot eich cariat bawp y’w gylydd yn lliosoc au,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol am danoch, frodyr, fel addas yw, gan mai mawr-gynnyddu y mae eich ffydd, ac ychwanegu y mae cariad pob un o’r oll o honoch tuag at eich gilydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dylem, frodyr, ddiolch yn wastadol i Dduw amdanoch, fel y mae yn gweddu inni, oherwydd dirfawr gynnydd eich ffydd a bod cariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn ymhelaethu,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, dŷn ni'n diolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Dyna ddylen ni ei wneud, achos mae'ch ffydd chi wedi cryfhau cymaint. Ac mae'r cariad sydd gan bob un ohonoch chi at eich gilydd yn tyfu bob dydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dylem ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion, fel y mae'n weddus, am fod eich ffydd yn cynyddu'n ddirfawr, a chariad pob un ohonoch tuag at ei gilydd yn dyfnhau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Diolch i Dduw a ddylem yn wastadol drosoch chwi, frodyr, fel y mae yn addas, gan fod eich ffydd yn mawr‐gynnyddu, a chariad pob un o honoch oll yn gorlifo tuag at eich gilydd,