2 Thessalonians 1:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
val ydd ym nine yn ymhoffy o hanoch in Ecclesi Duw, o bleit eich ammynedd, a’ch ffydd yn eich oll ymlidiae a’r gorthrymderae ydd ych yn ei goðef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw o herwydd eich amynedd a ffydd, yn eich holl erlidiau a’r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yr ymffrostiwn ninnau ynoch yn eglwysi Duw am eich amynedd a’ch ffydd yn eich holl erledigaethau a’r blinderau a ddioddefwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n sôn amdanoch chi wrth bobl eglwysi Duw ym mhobman. Dŷn ni mor falch eich bod chi'n dal ati yn ffyddlon er gwaetha'r holl erlid fuoch chi trwyddo a'r treialon dych chi wedi gorfod eu dioddef.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nes ein bod ninnau yn ymffrostio ynoch ymysg eglwysi Duw, o achos eich dyfalbarhad a'ch ffydd dan yr holl erledigaethau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu dioddef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel yr ydym ni ein hunain yn ymffrostio ynoch chwi yn eglwysi Duw am eich amynedd a'ch ffydd, yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef,