2 Thessalonians 1:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hyn sy yn argoel‐ goleu o cyfiawn‐varn Duw, val ich teilynger i deyrnas D d uw, er mvvyn yr hon ydd ych eisioes yn goddef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hyn sydd argoel eglur o gyfiawn farn Duw, fel y’ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, tros yr hon yr ydych yn dioddef,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Prawf ydynt o farn gyfiawn Duw i’ch gwneuthur chwi’n deilwng o deyrnas Dduw, y dioddefwch er ei mwyn; yn gymaint
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r cwbl yn arwydd clir y bydd Duw yn barnu'n gyfiawn. Dych chi'n cael eich cyfri'n deilwng i'w gael e'n teyrnasu drosoch chi, a dyna pam dych chi'n dioddef.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae hyn yn brawf o farn gyfiawn Duw, fel y cewch eich cyfrif yn deilwng o deyrnas Dduw, y deyrnas, yn wir, yr ydych yn dioddef er ei mwyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hyn sydd yn argoel amlwg o gyfiawn farn Duw; fel y'ch cyfrifer yn deilwng o deyrnas Dduw, dros yr hon yr ydych yn dyoddef;