2 Thessalonians 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac wrth oll ehudrwydd ancyfiawnder, ym‐plith yr ei a gyfer gollir, can na dd erbyniesont y cariat y gwirionedd, val yr iacheëit hwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chyda phob twyll anghyfiawnder i’r rhai sy’n myned ar goll, gan na fu i gariad y gwirionedd ei dderbyn ganddynt fel yr achuber hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ynghyda phob rhyw dwyll anghyfiawnder i’r rhai a gyfrgollir am na dderbyniasant gariad at wirionedd i’w hachub.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn gwneud pob math o bethau drwg ac yn twyllo'r rhai sy'n mynd i ddistryw am eu bod nhw wedi gwrthod credu'r gwir fyddai'n eu hachub nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chan bob twyll anghyfiawn, i ddrygu'r rhai sydd ar lwybr colledigaeth am iddynt beidio derbyn cariad at y gwirionedd a chael eu hachub.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac ym mhob twyll annghyfiawnder, i'r rhai sydd ar ffordd colledigaeth, gan na dderbyniasant gariad y gwirionedd fel y byddent gadwedig.