2 Thessalonians 2:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr nyni a ðlyem ðiol vv ch yn oystat y Dduw y trosoch, vroder caredigion can yr Arglwydd, o bleit y Dduw o’r ddechreu ad eich d ethol chwi i ieched vvrieth, trwy sancteiddiat yr Yspryt, a’ ffydd gwirionedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond nyni a ddylem ddiolch i Dduw yn wastadol trosoch, frodyr caredig gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o’r dechreuad i iachawdwriaeth yn sancteiddiad yr Yspryd, a ffydd i’r gwirionedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond diolch a ddylem ni yn wastadol i Dduw amdanoch chwi, frodyr annwyl gan yr Arglwydd, oherwydd i Dduw eich dewis chwi o’r dechreuad i iachawdwriaeth trwy sancteiddiad yr Ysbryd a ffydd yn y gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'n rhaid i ni ddiolch i Dduw amdanoch chi bob amser. Ffrindiau annwyl, chi sydd wedi'ch caru gan yr Arglwydd. Dych chi ymhlith y rhai cyntaf ddewisodd Duw i gael eu hachub drwy'r Ysbryd sy'n eich gwneud chi'n lân a thrwy i chi gredu'r gwir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe ddylem ni ddiolch i Dduw bob amser amdanoch chwi, gyfeillion annwyl gan yr Arglwydd, am i Dduw eich dewis chwi fel y rhai cyntaf i brofi iachawdwriaeth trwy waith sancteiddiol gan yr Ysbryd a thrwy gredu'r gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastadol i Dduw drosoch chwi, frodyr anwyl gan yr Arglwydd, o herwydd eich dewis gan Dduw o'r dechreuad i iachawdwriaeth, yn sancteiddiad yr yspryd, a chrediniaeth yn y gwirionedd;