2 Thessalonians 2:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na thwyllet neb chwi ym‐modd yn y byd: can na’s davv’r dydd hvvnvv nes dyvot yr ymadawiat yn gyntaf, a’ bod dadguddio y dyn y pechot urus, ’sef map y cyfergoll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na fydded i neb eich twyllo chwi mewn un modd; canys heb ddyfod o’r ymadawiad yn gyntaf ni ddaw, nac heb ei ddatguddio o ddyn pechod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na thwylled neb chwi mewn unrhyw fodd; oblegid oni ddêl yn gyntaf y gwrthgiliad a datguddio’r Dyn Anwir, mab y golledigaeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw'r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio'r dyn pechod, mab y golledigaeth;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch gadael i neb eich twyllo chi. Cyn i'r diwrnod hwnnw ddod bydd y gwrthryfel mawr olaf yn erbyn Duw yn digwydd. Bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg, sef yr un sydd wedi ei gondemnio i gael ei ddinistrio gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch chymryd eich twyllo gan neb mewn unrhyw fodd; oherwydd ni ddaw'r Dydd hwnnw nes i'r gwrthgiliad ddod yn gyntaf, ac i'r un digyfraith, plentyn colledigaeth, gael ei ddatguddio.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegyd ni ddaw heb ddyfod o'r Gwrthgiliad yn gyntaf, a dadguddio o'r Dyn Annghyfraith, Mab y Golledigaeth,