2 Thessalonians 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yno y d atguddir yr enwir hwnw, yr hwn a ddiva yr Arglwydd ac Yspryt ei eneu, ac ai diflanna a dysclaerdab ei ddyuodiat,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yna y datguddir yr anghyfraith-ddyn, yr hwn, yr Arglwydd Iesu a’i difetha ag anadl Ei enau, ac a’i diddymma ag amlygiad Ei ddyfodiad:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac yna datguddir y Dyn Anwir a’r Arglwydd Iesu a’i dinistria ef ag anadl Ei enau ac a’i diddyma trwy ymddangos ohono yn Ei ddyfodiad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydd yr un sy'n ymgorfforiad o ddrygioni yn dod i'r golwg. Ond bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd drwy ddim ond chwythu arno! Bydd yn ei ddinistrio wrth ddod yn ôl gyda'r fath ysblander.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yna fe ddatguddir yr un digyfraith, a bydd yr Arglwydd Iesu yn ei ladd ag anadl ei enau, ac yn ei ddiddymu trwy ysblander ei ddyfodiad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yna y dadguddir y Dyn Annghyfraith yr hwn y bydd i'r Arglwydd Iesu ei gymmeryd ymaith âg anadl ei enau, a'i ddiddymmu âg Ymddangosiad ei Ddyfodiad,