2 Thessalonians 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐pan oeddem gyd a chwi, hyn ich rhybyddiesam amdano, can a’s byðei neb, a’r ny d wyllysei weithio, na chei vwyta chvvaith.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi, Os yw neb heb ewyllysio gweithio, na fwyttaed chwaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yn wir, pan oeddem gyda chwi rhoesom i chwi y gorchymyn “Y neb na fynno weithio, na fwytaed chwaith.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan oeddem hefyd gyda chwi, hyn a orchmynasom i chwi, Os byddai neb ni fynnai weithio, ni châi fwyta chwaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Os ydy rhywun yn gwrthod gweithio, dydy e ddim i gael bwyta” — dyna ddwedon ni pan oedden ni gyda chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac yn wir, pan oeddem yn eich plith, rhoesom y gorchymyn hwn i chwi: os oes rhywun sy'n anfodlon gweithio, peidied bwyta chwaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys hefyd pan oeddym gyda chwi, hyn a orchymynasom i chwi: Os oes neb ni fyn weithio, na fwyttâed chwaith.