2 Thessalonians 3:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐clywsam, vot ’rei yn rhotio yn eich plith yn afreolus, eb weithio dim oll, any d gwaith io afraid.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys clywn am rai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, eithr yn ofer-weithio;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys clywn fod rhai yn eich plith yn byw’n segur heb weithio dim, ond busnesa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus, heb weithio dim, ond bod yn rhodresgar.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dŷn ni wedi clywed bod rhai ohonoch chi'n diogi. Pobl yn treulio'u hamser yn busnesa yn lle gweithio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr ydym yn clywed bod rhai yn eich mysg yn segura, yn busnesa ym mhobman heb weithio yn unman.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys yr ydym yn clywed fod rhai yn rhodio yn eich plith yn afreolus, heb weithio dim, ond yn ymyrwyr;