2 Thessalonians 3:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny yr ei ’sy gyfryw, a ’orchymynwn ac a gygcorwn can eun Arglwydd Iesu Christ, ar yddyn waithio y gyd a llonyddwch, a’ bwyta ei bara euhunain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac i’r cyfryw rai y gorchymynwn, ac y’u hannogwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, y bo iddynt, gan weithio gyda llonyddwch, fwytta eu bara eu hunain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gorchmynnwn a chymhellwn y cyfryw yn yr Arglwydd Iesu Grist i weithio’n dawel ac ennill eu bywoliaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond i'r cyfryw gorchymyn yr ydym, a'u hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar iddynt weithio trwy lonyddwch, a bwyta eu bara eu hunain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gynnon ni awdurdod yr Arglwydd i ddweud wrth bobl felly, a phwyso arnyn nhw i fyw fel y dylen nhw a dechrau ennill eu bara menyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r cyfryw yr ydym yn gorchymyn, ac yn apelio yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddynt weithio'n dawel ac ennill eu bywoliaeth eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac i'r cyfryw rai yr ydym yn gorchymyn ac yn eu hannog yn yr Arglwydd Iesu Grist, ar iddynt, gan weithio mewn modd tawel, fwytta eu bara eu hunain.