2 Thessalonians 3:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ad oes nep ny ’s vvyddhao i’n ymadrodd, arwyddocewch ef trwy lythyr, ac na vit ywch’ or gymddeithas ac ef, megis y cywillyddio.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac os rhyw un nad ufuddha i’n gair trwy’r epistol, hwnw nodwch, i beidio ag ymgymmysgu ag ef, fel y cywilyddio;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os gwrthyd neb ufuddhau i’n geiriau yn y llythyr, nodwch hwnnw; na chymdeitheswch ag ef, fel y cywilyddio.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond od oes neb heb ufuddhau i'n gair trwy y llythyr yma, hysbyswch hwnnw; ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cadwch lygad ar unrhyw un sy'n gwrthod gwneud beth dŷn ni'n ei ddweud yn y llythyr yma. Cadwch draw oddi wrtho, er mwyn codi cywilydd arno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch chymdeithasu hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac od oes neb heb ufuddhâu i'n gair trwy y llythyr hwn, nodwch hwnnw allan, fel na chydgymmysgoch âg ef, fel y cywilyddio.