2 Thessalonians 3:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwir Arglwyð y tangneddyf a roddo yw’ch tangeddyf yn ’oystatawl ym‐pop modd. Yr Arglwydd vo y gyd a chwi oll.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Arglwydd yr heddwch Ei hun a roddo i chwi heddwch yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fo gyda phawb o honoch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Arglwydd y tangnefedd Ei Hun a roddo i chwi Ei dangnefedd bob amser ym mhob rhyw fodd. Yr Arglwydd a fo gyda chwi oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd a fyddo gyda chwi oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd sy'n rhoi heddwch yn gwneud i chi brofi ei heddwch ym mhob sefyllfa. Bydded yr Arglwydd yn agos at bob un ohonoch chi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac Arglwydd y tangnefedd ei hun a roddo i chwi dangnefedd yn wastadol ym mhob modd. Yr Arglwydd fo gyda chwi oll.