2 Thessalonians 3:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr anerch y can‐y‐vi Paul, a’m llaw vy h un, yr hwn yw’r arwydd ym‐pop epistol: val hyn y ’r scrivēnaf,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr annerch â’m llaw i Paul, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae’r annerch yn fy llaw fy hun, Pawl. Dyma arwydd ym mhob llythyr; dyma fy ysgrifen:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun; yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol: fel hyn yr ydwyf yn ysgrifennu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ysgrifennu'r cyfarchiad yma yn fy llawysgrifen fy hun — PAUL. Dyma sy'n dangos yn fy holl lythyrau mai fi sy'n ysgrifennu. Dyma fy llawysgrifen i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r cyfarchiad yn fy llaw i, Paul. Hwn yw'r arwydd ym mhob llythyr; fel hyn y byddaf yn ysgrifennu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr annerch â'm llaw i Paul, fy hun, yr hyn sydd arwydd ym mhob epistol. Felly yr wyf yn ysgrifennu.