2 Thessalonians 3:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd ym yn gobaitho am danoch trwy ’r Arglwydd, ac ych bot yn gwneuthu ’r, ac y gwne l wch rhac llavv y petheu a ’orchymynwn y‐chwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac hyder sydd genym yn yr Arglwydd am danoch, mai’r pethau a orchymynwn yr ydych yn eu gwneuthur, ac y’u gwnewch.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae gennym hyder ynoch yn yr Arglwydd, eich bod yn gwneuthur a orchmynnwn, ac y gwnewch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'r Arglwydd yn ein gwneud ni'n hyderus eich bod chi'n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gorchymyn, ac y byddwch yn dal i'w gwneud.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bod yn gwneuthur ac y gwnewch y pethau yr ydym yn eu gorchymyn.