2 Thessalonians 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac ny ’s bwytesam vara gan nep yn rhat: any d gweithio avvnaem trwy lafur a’ lluddet nos a’ dydd, er mwyn na phwysem ar neb o hanoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid yn rhad y bwyttasom fara gan neb; eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ni fwytasom fara neb heb ei ennill, eithr gweithio nos a dydd mewn diwydrwydd a lludded, rhag pwyso ar neb ohonoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni fwytasom fara neb yn rhad; ond trwy weithio mewn llafur a lludded, nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch chwi;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedden ni ddim yn cymryd mantais o bobl eraill drwy fwyta yn eu cartrefi nhw heb dalu am ein lle. Yn hollol fel arall! Roedden ni'n gweithio ddydd a nos er mwyn gwneud yn siŵr bod dim rhaid i chi dalu i'n cynnal ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
na bwyta bara neb am ddim, ond yn hytrach gweithio nos a dydd mewn llafur a lludded, rhag bod yn faich ar neb ohonoch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac ni fwyttasom fara yn rhad oddiar law neb, eithr mewn llafur a lludded, gan weithio nos a dydd, fel na fyddem yn faich ar neb o honoch;