2 Timothy 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ef a eglurwyt yr owrhon gan ymddangosiat ein Iachawdr Iesu Christ, yr hwn a ðileoð angeu, ac a dduc vywyt ac ac ammarwolaeth i ’olauni trwy’r Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond a amlygwyd yn awr trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr Hwn a ddiddymmodd angau, ac a ddug i oleuni fywyd ac anllygredigaeth trwy’r Efengyl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond a eglurhawyd yn awr trwy amlygiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, a ddirymodd angau ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i’r golau trwy’r efengyl
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddangosiad ein Hiachawdwr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymodd angau, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth i oleuni trwy'r efengyl:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a bellach mae haelioni Duw i'w weld yn glir, am fod ein Hachubwr ni, y Meseia Iesu, wedi dod. Mae wedi dinistrio grym marwolaeth a dangos beth ydy bywyd tragwyddol ac anfarwoldeb drwy'r newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond a amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod bywyd ac anfarwoldeb i'r golau trwy'r Efengyl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ond a amlygwyd yn awr trwy Ymddangosiad ein Hiachawdwr Crist Iesu, yr hwn a ddirymmodd yr angau, ac a daflodd oleuni ar fywyd ac anllygredigaeth trwy yr efengyl;