2 Timothy 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ir hon im gosodwyt i yn precethwr, ac yn Apostol ac yn ddyscyawdr y Cenedloedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i’r hon y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol a dysgawdwr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y’m gosodwyd i yn bregethwr ac apostol ac athro iddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac yn apostol, ac yn athro'r Cenhedloedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r newyddion da dw i wedi cael fy newis i'w gyhoeddi a'i ddysgu fel cynrychiolydd personol Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r Efengyl hon yr wyf fi wedi fy mhenodi'n bregethwr, yn apostol ac yn athro.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
i'r hon y'm gosodwyd i yn bregethwr, ac Apostol, a dysgawdwr y Cenhedloedd.