2 Timothy 1:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am yr hwn achos y dyoddefaf hefyt y petheu hyn, ac nyd oes arnaf giwilydd: can ys gwn pwy a gredais, ac y mae yn ddilys genyf y vot ef yn abl y gadw yr hyn a ðodais ataw erbyn y dyð hwnw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Am ba achos, y pethau hyn hefyd yr wyf yn eu dioddef. Eithr nid oes arnaf gywilydd, canys gwn i bwy y credais, a pherswadiwyd fi mai abl yw i gadw yr hyn a roddwyd Atto genyf erbyn y dydd hwnw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O achos hyn y dioddefaf hefyd y pethau hyn, ond nid oes arnaf gywilydd, canys mi a wn ym mhwy yr wyf wedi ymddiried, ac y mae yn ddiogel gennyf y medr ef warchod fy adnau hyd y dydd mawr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am ba achos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd: canys mi a wn i bwy y credais; ac y mae yn ddiamau gennyf ei fod ef yn abl i gadw'r hyn a roddais ato erbyn y dydd hwnnw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i'n dioddef fel rydw i. Ond does gen i ddim cywilydd, achos dw i'n nabod yr un dw i wedi credu ynddo. Dw i'n hollol sicr ei fod yn gallu cadw popeth dw i wedi ei roi yn ei ofal yn saff, nes daw'r diwrnod pan fydd e'n dod yn ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r rheswm, yn wir, fy mod yn dioddef yn awr. Ond nid oes arnaf gywilydd o'r peth, oherwydd mi wn pwy yr wyf wedi ymddiried ynddo, ac rwy'n gwbl sicr fod ganddo ef allu i gadw'n ddiogel hyd y Dydd hwnnw yr hyn a ymddiriedodd i'm gofal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am ba achos yr wyf yn dyoddef hefyd y pethau hyn; ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy yr ymddiriedais, ac yr wyf yn argyhoeddedig ei fod yn alluog i warchod yr hyn a roddais i'w gadw erbyn y Dydd hwnnw.