2 Timothy 1:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cadw wir esempl yr iachus ymadroddion, yr ei a glyweist y can y vi yn ffydd a’ chariat ys ydd yn‐Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dal gyn-ddelw’r geiriau iachus, y rhai genyf fi a glywaist, mewn ffydd, a’ r cariad y sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydded gennyt batrwm y ddysgeidiaeth iach a glywaist gennyf i yn y ffydd a’r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydded gennyt ffurf yr ymadroddion iachus, y rhai a glywaist gennyf fi, yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cofia beth wnes i ei ddweud, a'i gadw fel patrwm o ddysgeidiaeth gywir. Dal di ati i gredu ynddo ac i garu eraill am dy fod yn perthyn i'r Meseia Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymer fel patrwm i'w ddilyn y geiriau iachusol a glywaist gennyf fi, wrth fyw yn y ffydd a'r cariad sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dal gynllun y geiriau iachus a glywaist gennyf fi, mewn ffydd a chariad yng Nghrist Iesu.