2 Timothy 1:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Roed yr Arglwydd yddo, gahel o hano drugaredd gyd a’r Arglwydd yn y dydd hwnw, a’ pha veint betheu vu ef im gweni yn Ephesus, ti wyddost yn ’oreu vn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pha faint yn Ephesus y gwasanaethodd i mi, da iawn yr wyt ti yn gwybod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Rhodded yr Arglwydd iddo yntau gaffael trugaredd oddi wrth yr Arglwydd yn y dydd mawr; a’r holl wasanaeth a wnaeth yn Effesus, gwyddost ti yn well na neb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Effesus, gorau y gwyddost ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Boed i'r Arglwydd fod yn arbennig o garedig ato ar y diwrnod pan fydd Iesu Grist yn dod yn ôl! Rwyt ti'n gwybod cymaint o help fuodd e i mi yn Effesus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhodded yr Arglwydd iddo ddod o hyd i drugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw. Fe wyddost ti yn dda gymaint o wasanaeth a roddodd ef yn Effesus.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'm cafodd (rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd yn y Dydd hwnnw!) ac ym mha lawer o bethau y gwasanaethodd efe yn Ephesus, ti a wyddost yn dda iawn.