2 Timothy 1:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys diolchaf y Dduw, ’rhwn y wasanaethaf om rrieni a chydwybot bur, can ys eb peidio y may genyf gof am danat yn vy‐gweddieu nos a’ dydd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Diolch yr wyf i Dduw, yr Hwn yr wyf yn Ei wasanaethu o’ m rhieni mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae genyf fy nghoffa am danat yn fy ngweddïau, nos a dydd yn hiraethu am dy weled di,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Diolchaf i’m Duw a addolaf fel fy nhadau â chydwybod bur, wrth wneuthur coffa ohonot yn ddibaid yn fy ngweddïau nos a dydd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y mae gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni â chydwybod bur, mor ddi-baid y mae gennyf goffa amdanat ti yn fy ngweddïau nos a dydd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i mor ddiolchgar i Dduw amdanat ti — y Duw dw i'n ei wasanaethu gyda chydwybod glir, fel y gwnaeth fy nghyndadau. Dw i bob amser yn cofio amdanat ti wrth weddïo ddydd a nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn diolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu chydwybod bur fel y gwnaeth fy hynafiaid, pan fyddaf yn cofio amdanat yn fy ngweddau, fel y gwnaf yn ddi-baid nos a dydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mac gennyf ddiolch i Dduw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu o'm cyndadau mewn cydwybod bur, mor ddibaid y mae gennyf goffa am danat ti yn fy neisyfiadau, nos a dydd