2 Timothy 1:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Achos paam, ydd wyf ith coffau y gyffroi y dawn Duw ys ydd ynot, wrth arddodiat vy‐dwyaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd pa achos dy goffau yr wyf i ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O achos hyn atgofiaf di i ailennyn dawn Duw y sydd ynot ti trwy arddodiad fy nwylo i,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd pa achos yr ydwyf yn dy goffáu i ailennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pam dw i am i ti ailgynnau'r fflam, a meithrin y ddawn roddodd Duw i ti pan wnes i osod dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i'r gwaith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O ganlyniad, yr wyf yn dy atgoffa i gadw yngynn y ddawn a roddodd Duw iti, y ddawn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd pa achos yr wyf yn dy adgoffa i ail‐ennyn yn fflam ddawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylaw i.