2 Timothy 1:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny na vydd arnat gywilyð o destiolaeth yr Arglwydd, nac o hano vi neu y garcharawr ef: eithr cydoddef‐ di‐ gystuddion yr Euangel, wrth veddiant Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o myfi, Ei garcharor;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na foed arnat gywilydd, ynteu, o dystiolaeth yr Arglwydd, na chwaith ohonof innau ei garcharor, eithr cydoddef â mi gam-drin dros yr efengyl trwy allu Duw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac ohonof finnau ei garcharor ef: eithr cydoddef di gystudd â'r efengyl, yn ôl nerth Duw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly paid bod â chywilydd dweud wrth eraill am ein Harglwydd ni. A paid bod â chywilydd ohono i chwaith, am fy mod i yn y carchar am ei wasanaethu. Sefyll gyda mi yn nerth Duw, a bydd yn fodlon dioddef dros y newyddion da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, na foed cywilydd arnat roi tystiolaeth am ein Harglwydd, na chywilydd ohonof fi, ei garcharor ef; ond cymer dy gyfran o ddioddefaint dros yr Efengyl, trwy'r nerth yr ydym yn ei gael gan Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny na fydded arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finnau ei garcharor ef; eithr cyd‐oddef di gystudd ar ran yr efengyl yn ol gallu Duw,