2 Timothy 1:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn an iachaoð, ac an galwodd a galwedigaeth sanctaið ny d, wrth ein gweithredoedd ni, anyd wrth y bwrpos yhun, a’ y rat, ’rhwn a roespwyt y ni trwy Christ Iesu cyn amseroedd oeseu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr cydoddef gystudd â’r Efengyl yn ol gallu Duw, yr Hwn a’n hachubodd ac a’n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd, eithr yn ol Ei arfaeth Ef Ei hun a gras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu cyn yr amseroedd tragywyddol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn a’n hachubodd ni, a’n galw â galwad santaidd, nid oherwydd ein gweithredoedd ni, eithr oherwydd ei briod fwriad a’i ras a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu erioed,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a'i ras, yr hwn a roddwyd i ni yng Nghrist Iesu, cyn dechrau'r byd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae Duw wedi'n hachub ni a'n galw ni i fyw bywyd glân. Wnaethon ni ddim i haeddu hyn. Duw ei hun ddewisodd wneud y peth. Mae e mor hael! Mae e wedi dod â ni i berthynas â'r Meseia Iesu. Trefnodd hyn i gyd ymhell cyn i amser ddechrau,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ef a'n hachubodd ni, a'n galw galwedigaeth sanctaidd, nid ar sail ein gweithredoedd ond yn unol 'i arfaeth ei hun a'i ras, y gras a roddwyd inni yng Nghrist Iesu cyn dechrau'r oesoedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd ni â galwedigaeth sanctaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun, a gras yr hwn a roddwyd i ni cyn amseroedd yr oesoedd,