2 Timothy 2:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny ydd wyf yn goddef pop peth, er mwyn y d etholedigion, megis ac y gallent wy theu gaffael yr iechyd vvrieth ys ydd yn‐Christ Iesu, y gyd a gogoniant tragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O achos hyn pob peth yr wyf yn ei oddef er mwyn yr etholedigion, fel y bo iddynt hwy hefyd gael yr iachawdwriaeth y sydd yng Nghrist Iesu, ynghyda gogoniant tragywyddol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dyna paham yr wyf yn ymgynnal tan bob dim er mwyn y rhai dewisol, fel y cyrhaeddont hwythau yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu ynghyda gogoniant tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny yr ydwyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y gallont hwythau gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n fodlon diodde'r cwbl er mwyn i'r bobl mae Duw wedi eu dewis gael eu hachub gan y Meseia Iesu a chael eu anrhydeddu ag ysblander tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, yr wyf yn goddef y cyfan er mwyn ei etholedigion, iddynt hwythau hefyd gael yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, ynghyd gogoniant tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn yr wyf yn goddef pob peth er mwyn yr etholedigion, fel y caffont hwythau hefyd yr iachawdwriaeth sydd yng Nghrist Iesu, gyda gogoniant tragywyddol.