2 Timothy 2:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’s dyoddefwn, ni a gydeyrnaswn hefyt ac ef: ac a’s ym wadwn ac ef, ynt ef hefyt a ym wad a ni nheu
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
os goddef yr ydym, teyrn-aswn hefyd gydag Ef; os gwadwn Ef, Yntau hefyd a’n gwad ni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os ymgynhaliwn, ni gawn gyd-deyrnasu, Os gwadwn, yntau a’n gwad ninnau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Os dioddefwn, ni a deyrnaswn gydag ef: os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ninnau:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
os byddwn ni'n dal ati, byddwn ni hefyd yn cael teyrnasu gydag e. Os byddwn ni'n gwadu ein bod ni'n ei nabod e, bydd e hefyd yn gwadu ei fod yn ein nabod ni;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
os dyfalbarhawn, cawn deyrnasu hefyd gydag ef; os gwadwn ef, bydd ef hefyd yn ein gwadu ninnau;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
os goddefwn, teyrnaswn hefyd gydag ef; os gwadwn ef, yntau hefyd a'n gwad ni;