2 Timothy 2:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am y petheu hyn dwc ar gof yddynt, a’ thestia laetha ger bron yr Arglwydd, na bo yddynt ymrysont yncylch gairieu, yr hyn nyd yvv er dim lles aad, anyd er d adymchwelyd y gwrandwyr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y pethau hyn dwg i’ w cof, gan orchymyn iddynt, ger bron yr Arglwydd, nad ymrysonont â geiriau, am yr hyn nad yw dda i ddim, i ddadymchweliad y rhai sy’n clywed.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atgofia’r pethau hyn iddynt, gan eu tynghedu yngŵydd yr Arglwydd i beidio ag ymryson am eiriau, peth nad yw fuddiol i ddim ond dymchwelyd y gwrandawyr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dwg y pethau hyn ar gof, gan orchymyn gerbron yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandawyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dal ati i atgoffa pobl o'r pethau hyn. Rhybuddia nhw, o flaen Duw, i beidio hollti blew am ystyr geiriau. Dydy peth felly ddim help i neb. Mae'n drysu'r bobl sy'n gwrando.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dwg ar gof i bobl y pethau hyn, gan eu rhybuddio yng ngu373?ydd Duw i beidio dadlau am eiriau, peth cwbl anfuddiol, ac andwyol hefyd i'r rhai sy'n gwrando.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Dwg y pethau hyn i'w côf, gan eu tynghedu gerbron Duw na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y rhai sydd yn gwrandaw.