2 Timothy 2:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’y ymadrodd hwy a ysa val cancr: ac o’r cyfryvv rei y mae Hymenaius a c Philetus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a’u gair hwynt, fel cancr y bwytty; o’r rhai y mae Humenëus a Philetus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’u gair a ysa fel cancr; ohonynt hwy y mae Hymenaeos a Philetos,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'u hymadrodd hwy a ysa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymeneus a Philetus;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'n rywbeth sy'n lledu fel cancr. Dyna sydd wedi digwydd i Hymenaeus a Philetus
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'u gair hwy a fwytty yn ddyfnach, fel cancr gwyllt; o'r rhai y mae Hymenëus a Philetus;