2 Timothy 2:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hein am y gwirionedd aethant ar gyfeilorn, gan ddywedyt ddarvot eisus y cyvodiadigeth, ac y maent yn d adymchwel ffydd rryvv rei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai, o ran y gwirionedd, a fethasant daro’r nod, gan ddywedyd fod yr adgyfodiad eisoes wedi digwydd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y rhai a gamfwriodd ynglŷn â’r gwirionedd: dywedyd a wnânt ddigwydd o’r atgyfodiad eisoes a dadymchwel ffydd rhai.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr atgyfodiad eisoes; ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
— maen nhw wedi crwydro i ffwrdd oddi wrth y gwir. Maen nhw'n honni fod ein hatgyfodiad ni yn rhywbeth sydd eisoes wedi digwydd, ac maen nhw wedi chwalu ffydd rhai pobl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd fod yr Adgyfodiad wedi cymmeryd lle eisoes, ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai.