2 Timothy 2:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y mae sail Duw yn sefyll yn ddiogel, ac y mae yddo yr in sel hon, Yr Arglwyð a wyr pvvy rei yw’r eiddo, ac, Ymadawet ywrth ancyfiawnder pwy byn a c a ’alwo ar Enw Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dadymchwelyd ffydd rhai y maent. Er hyny, sail ffurf Duw sy’n sefyll, a chanddo y sel hon, Edwaen yr Arglwydd y rhai sydd eiddo Ef, ac, Ymaith oddiwrth anghyfiawnder safed pob un sydd yn enwi enw’r Arglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eto i gyd cadarn sylfaen Duw sydd yn dal, ac arni’r argraff hon, “Fe edwyn yr Arglwydd ei bobl ei hun,” ac “Ymadawed â drygioni bawb a enwo enw’r Arglwydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo'r sêl hon: Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a, Pob un sydd yn enwi enw Crist, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae gwirionedd Duw yn sefyll — mae fel carreg sylfaen gadarn, a'r geiriau hyn wedi eu cerfio arni: “Mae'r Arglwydd yn nabod ei bobl ei hun,” a, “Rhaid i bawb sy'n dweud eu bod nhw'n perthyn i'r Arglwydd droi cefn ar ddrygioni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sl sydd arni yw: "Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo", a "Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni".
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yn wir y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sêl hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef, a, Pob un sydd yn enwi enw yr Arglwydd, cadwed yn glir oddiwrth annghyfiawnder.