2 Timothy 2:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
As neb gan hyny y carth y hunan ywrth y petheu hyn, ef e vydd lestr i anrydedd, wedy ei sancteiddio, ac yn addvwyn ir Arglwydd, ac yn parat i bop gwaith red da.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Os, gan hyny, y glanha neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, bydd yn llestr i anrhydedd, wedi ei sancteiddio, yn gymmwys i’r meistr, i bob gwaith da yn ddarparedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Os ymbura neb, ynteu, oddi wrth y drygau hyn, ef a fydd lestr urddasol, cysegredig, at law’r meistr yn barod i bob gwaith da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os bydd rhywun yn cadw draw o'r pethau diwerth soniwyd amdanyn nhw, bydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn werthfawr, ac yn cael ei neilltuo i'r Meistr ei ddefnyddio i wneud gwaith da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Os gan hynny, y glanhâ neb ei hun oddiwrth y rhai hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei gyssegru, yn gymhwys i wasanaeth y Meistr, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.