2 Timothy 2:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Fo hefyt rrac chwanteu ieuntit, a’ dilyn gyfiawnder, ffydd, cariat, a’ t h angneddyf, y gyd a’r ein y alwant ar yr Arglwydd o galon bur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond chwantau ieuengctid, ffo oddiwrthynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch, ynghyda’r rhai sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr nwydau ieuenctid, ffo rhagddynt, a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd yng nghwmni’r sawl sy’n galw ar yr Arglwydd o galon bur.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond chwantau ieuenctid, ffo oddi wrthynt: a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rhaid i ti ddianc rhag chwantau gwamal ieuenctid. Dylet ti wneud dy orau i fyw yn iawn. Bydd yn ffyddlon i Dduw, ac yn llawn o'i gariad a'i heddwch. Dyma sut mae'r rhai sy'n cyffesu enw'r Arglwydd o gymhellion pur yn ymddwyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd chalon bur.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond chwantau ieuengctyd, ffo oddiwrthynt, a dylyn ar ol cyfiawnder, ffydd, cariad, tangnefedd, gyda'r rhai sydd yn galw ar yr Arglwydd o galon bur.