2 Timothy 2:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gan ei h addyscu a’ chymedroldep yr ei gwrthwynep‐ei‐meddwl, y edrych a roddo Duw vn amser yddynt vvy ediveirwch, i gyf adnabot y gwirionedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
mewn addfwynder yn cyweirio y rhai sy’n gwrthwynebu, os ysgatfydd y rhydd Duw iddynt edifeirwch i wybodaeth y gwirionedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn mwynaidd hyfforddi’r gwrthwynebwyr. Pwy a ŵyr na rydd Duw rywbryd iddynt edifeirwch i ganfod y gwirionedd
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mewn addfwynder yn dysgu'r rhai gwrthwynebus; i edrych a roddo Duw iddynt hwy ryw amser edifeirwch i gydnabod y gwirionedd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai fod yn sensitif wrth geisio cywiro'r rhai sy'n tynnu'n groes iddo. Wedi'r cwbl mae bob amser yn bosib y bydd Duw yn caniatáu iddyn nhw newid eu meddyliau a dod i gredu'r gwir;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a u373?yr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
mewn addfwynder yn hyfforddi y rhai gwrthwynebus, os byth y rhydd Duw iddynt edifeirwch i lawn‐adnabyddiaeth o'r gwirionedd,