2 Timothy 2:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cofia am Iesu Christ y hanoedd o had Dauid, ðarvot y gyvodi ef o veirw wrth vy Euangel i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cofia Iesu Grist, wedi Ei gyfodi o feirw, o had Dafydd, yn ol fy Efengyl,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cadw mewn cof Iesu Grist, y sydd wedi atgyfodi oddi wrth y meirw, o hil Dafydd; dyma fy efengyl i.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofia gyfodi Iesu Grist o had Dafydd, o feirw, yn ôl fy efengyl i:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cofia fod Iesu y Meseia, oedd yn perthyn i deulu y Brenin Dafydd, wedi ei godi yn ôl yn fyw ar ôl marw. Dyma'r newyddion da dw i'n ei gyhoeddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofia Iesu Grist: ei gyfodi oddi wrth y meirw, ei eni o linach Dafydd, yn l yr Efengyl yr wyf fi yn ei phregethu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cadw mewn côf Iesu Grist, fel wedi adgyfodi o feirw, o hâd Dafydd, yn ol fy efengyl i,