2 Timothy 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yn yr hon ydd wyf yn dyoddef trwbl mal gweithredwr‐drwc, ys h yd rwymeu: eithr gair Duw ny rwymir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn yr hon yr wyf yn goddef cystudd hyd rwymau, megis drwg-weithredwr, eithr gair Duw ni rwymwyd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yng ngwasanaeth hon y goddefaf gam-drin hyd at rwymau fel drwg weithredwr, eithr gair Duw nis rhwymir.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rwymau, fel drwgweithredwr; eithr gair Duw nis rhwymir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna'r union reswm pam dw i'n dioddef — hyd yn oed wedi fy rhwymo gyda chadwyni yn y carchar, fel taswn i'n droseddwr. Ond dydy cadwyni ddim yn gallu rhwymo neges Duw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yng ngwasanaeth yr Efengyl hon yr wyf yn dioddef hyd at garchar, fel rhyw droseddwr, ond nid oes carchar i ddal gair Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yn yr hon yr wyf yn goddef adfyd hyd rwymau, fel drwg‐weithredwr; eithr gair Duw ni rwymwyd.