2 Timothy 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ thi a lwyr adwaenost vy‐dysc eidaeth i, helhynt vy‐buchedd, vy‐ purpos, ffydd, ammyned, cariat, dioddefgarwch,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond tydi a ganlynaist fy nysgad i, fy ymarweddiad, fy arfaeth, fy ffydd, fy hir-ymaros, fy nghariad, fy amynedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr tydi, deliaist ar fy nysgeidiaeth, fy ymarweddiad, fy niben, fy ffydd, fy hiroddef, fy nghariad, fy ymgynnal,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, amynedd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond rwyt ti'n wahanol Timotheus. Rwyt ti wedi cymryd sylw o'r hyn dw i'n ei ddysgu, o sut dw i'n byw, beth ydy fy nod i mewn bywyd, sut dw i'n ymddiried yn Iesu Grist, fy amynedd i, fy nghariad i at bobl, fy ngallu i ddal ati.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr wyt ti wedi dilyn yn ofalus fy athrawiaeth i a'm ffordd o fyw, fy ymroddiad, fy ffydd, fy amynedd, fy nghariad a'm dyfalbarhad,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr tydi a ddylynaist fy addysg i, fy ymarweddiad, arfaeth, ffydd, hir‐ymaros, cariad, amynedd,