2 Timothy 3:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y drwc ddynion, a’r twyllwyr aant waethwaeth, gan dwyllo, a’ chael ei twyllo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond drwg-ddynion ac hocedwyr a ant rhagddynt waeth-waeth, yn arwain ar gyfeiliorn, ac yn cael eu harwain ar gyfeiliorn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond dynion maleisus a ffugwyr a â rhagddynt o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond bydd pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi eu twyllo eu hunain yr un pryd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond bydd pobl ddrwg ac ymhonwyr yn mynd o ddrwg i waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr drwg‐ddynion a thwyllwyr a ânt rhagddynt waethwaeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.