2 Timothy 3:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ bot y ti wybot yr Scrythur æ g lan er yn vap, yr ei ’sy abl ith wneuthur yn‐ðoeth i iechedwrieth trwy’r ffydd ys ydd yn‐Christ Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac mai er’s yn faban y gwyddost y sanctaidd ysgrifeniadau, y rhai a allant dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac iti o’th febyd wybod yr Ysgrythur Lân a fedr dy wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy’r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac i ti er yn fachgen wybod yr ysgrythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iachawdwriaeth trwy'r ffydd sydd yng Nghrist Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roeddet ti'n gyfarwydd â'r ysgrifau sanctaidd ers yn blentyn. Trwyddyn nhw y dest ti i ddeall sut i gael dy achub, drwy gredu yn y Meseia Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'th fod er yn blentyn yn gyfarwydd 'r Ysgrythurau sanctaidd, sydd yn abl i'th wneud yn ddoeth a'th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac i ti er yn faban wybod yr Ysgrythyrau Sanctaidd, y rhai sydd yn alluog i'th wneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth, trwy ffydd, yr hon sydd yng Nghrist Iesu.