2 Timothy 3:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can o’r ei hyn y mae y sawl a ymluscant i dai e, ac yn dwyn yn gaith wrageddos yn llwythoc o bechotae, yn arweinedic gan amravael chwāteu,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
oddiwrth y rhai hyn tro ymaith; canys o’r rhai hyn y mae y rhai sy’n ymgludo i’r teiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, gwrageddos yn cael eu harwain gan amryw chwantau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oddi wrth y rhain hefyd tro ymaith; o’u plith y mae’r sawl a ymlwybra i dai, a chael i’w gafael wrageddos dan faich o bechodau, a yrrir gan amryfal nwydau,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys o'r rhai hyn y mae'r rhai sydd yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nhw ydy'r math o bobl sy'n twyllo teuluoedd ac yn cymryd mantais o wragedd sy'n hawdd dylanwadu arnyn nhw. Mae'r gwragedd hynny wedyn yn cael eu llethu gan euogrwydd am fod eu chwantau nhw'n cael y gorau arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r math o bobl fydd yn gweithio'u ffordd i mewn i dai rhai eraill, ac yn rhwydo gwragedd ffl sydd dan faich o bechodau ac yng ngafael pob rhyw nwydau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sydd yn ymlusgo i deuluoedd, ac yn dwyn i gaethiwed wrageddos wedi eu llethu gan bechodau, wedi eu harwain gan amrywiol chwantau,