2 Timothy 3:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac megis y gwrth safodd Iannes ac Iambres Voysen, vel’y y mae yr ei hyn yn gwrthðod y gwirionedd, dynion o veddwl llygredic, yn amprovadwy erwydd y ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn y modd y bu i Iannes ac Iambres wrthsefyll Mosheh, felly y rhai hyn hefyd sy’n gwrthsefyll y gwirionedd, dynion llygredig o ran eu meddwl, yn anghymmeradwy ynghylch y ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Megis y gwrthsafodd Jannes a Jambres Foesen, felly y gwrthsaif y rhain hefyd y gwirionedd, dynion cwbl ddirywiedig eu meddwl, ffuantus eu ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr megis y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly y mae'r rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymeradwy o ran y ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Sefyll yn erbyn y gwir mae'r dynion yma, yn union fel Jannes a Jambres yn gwrthwynebu Moses. Dynion gyda meddyliau pwdr ydyn nhw — dynion sy'n cogio eu bod nhw'n credu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn union fel y safodd Jannes a Jambres yn erbyn Moses, felly hefyd y mae'r rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd. Pobl lygredig eu meddwl ydynt, ac annerbyniol o ran y ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond y modd y gwrthsafodd Jannes a Jambres Moses, felly hefyd y mae y rhai hyn yn gwrthsefyll y gwirionedd: dynion a'u meddyliau wedi eu hollol lygru, yn annghymmeradwy o ran ffydd.