2 Timothy 4:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Rac yr hwn ymgadw di the hefyt: cans ef a wrth safodd ein precaeth e ni yn ddir vawr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn, gwylia dithau hefyd rhagddo, canys yn ddirfawr y gwrthsafodd ein hymadroddion ni.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
y dyn hwn gwylia dithau, canys dygn y gwrthsafodd ef ein geiriau ni.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn hefyd gochel dithau; canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn hefyd gwylia dithau rhagddo, canys ef a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.