2 Timothy 4:17 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Er hyny yr Arglwydd a safoð gyd a mi, ac am nerthawð, mal trywo vi y cwbl cyflawnit i preceth iat, ac mal y clywent yr oll Genetloedd, ac im gwaredwyt o eneu y lleo.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
iddynt na chyfrifer: ond yr Arglwydd a safodd gyda mi ac a’m nerthodd, fel trwof fi y byddai i’r Cyhoeddiad ei gyflawni, ac y clywai’r holl genhedloedd; a gwaredwyd fi o enau’r llew.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr Arglwydd a safodd yn fy ymyl, ac a roddes imi’r nerth, fel trwof i y llwyr gyhoeddid yr efengyl ac y clywai’r holl genhedloedd hi. Do, fe’m gwaredwyd o safn y llew.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd; fel trwof fi y byddai'r pregethiad yn llawn hysbys, ac y clywai'r holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr Arglwydd a safodd gyda mi, ac a'm nerthodd, fel trwof fi y byddai i'n cennadwri gael ei chyhoeddi yn llawn, ac y clywai yr holl genhedloedd: a gwaredwyd fi o enau y llew.