2 Timothy 4:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys e ddaw’r amser pryd na ddyoddefant athraweth iach us: eithr aei clustieu a chosi, wrth y chwanteu y hunain a ben tyrant yddynt ddyscyawdwyr,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys bydd amser pryd na fydd i athrawiaeth iachus mo’i dioddef ganddynt, eithr yn ol eu chwantau eu hunain iddynt eu hunain y pentyrrant ddysgawdwyr,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys daw amser pan na oddefont y ddysgeidiaeth iach, eithr yn ôl eu mympwy eu hunain, pentyrrant iddynt eu hunain athrawon â’u clustiau’n merwino,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys daw'r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus; eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clustiau yn merwino;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd fe ddaw amser pan na fydd pobl yn goddef athrawiaeth iach ond yn dilyn eu chwantau eu hunain, ac yn crynhoi o'u cwmpas liaws o athrawon i oglais eu clustiau,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys bydd amser pan na ddyoddefont yr athrawiaeth iachus, eithr yn ol eu chwantau eu hunain hwy a bentyrrant athrawon iddynt eu hunain, gan fod eu clyw wedi merwino;