3 John 1:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Erwyð paam a’s dauaf, mi venagaf ei weithredoeð y mae e yn y wneuthur, gā siarad in h erbyn a gairie drigionus, ac nyd yn voddlawn y hyn y ac ny d yw ef y hun yn d erbyn y brodyr, eithr goharð y mae yr ei a wyllysient, a’ ei gwthio allan o’r Eccles.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd ef y rhai y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag-siarad â geiriau drwg i’n herbyn; ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sy’n ewyllysio, eu rhwystro y mae, ac allan o’r Eglwys y’u teifl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, pan ddeuaf, mi a alwaf sylw at ei waith yn clebran i’n herbyn â geiriau drwg; ac nid yw hyn yn ddigon ganddo, — ni fyn ei hunan dderbyn y brodyr, ond y mae hefyd yn rhwystro’r rhai sy’n dymuno hynny, ac yn eu torri allan o’r eglwys.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i'n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a'r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydda i'n dod acw bydda i'n tynnu sylw at beth mae'n ei wneud. Mae e'n lledu sibrydion maleisus amdanon ni. A dydy hynny ddim yn ddigon ganddo! Mae e hefyd yn gwrthod rhoi croeso i'r brodyr sy'n pregethu'r newyddion da, ac mae'n rhwystro'r bobl sydd eisiau rhoi croeso iddyn nhw rhag gwneud hynny. Mae hyd yn oed yn taflu'r bobl hynny allan o'r eglwys!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, pan ddof, byddaf yn galw sylw at yr hyn y mae'n ei wneud, yn clebran yn ein herbyn geiriau drygionus; ac yn wir, nid yw'n fodlon ar eiriau y mae'n gwrthod derbyn y cyfeillion, ac yn gwahardd y rhai sydd am eu derbyn, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd hyn, os deuaf, dygaf ar gof ei weithredoedd y rhai y mae yn eu gwneuthur, gan wag‐siarad i'n herbyn âg ymadroddion drygionus: ac heb ei ddigoni â hyn, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, ac y mae yn gwahardd y rhai sydd yn ewyllysio, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys.