3 John 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Vy‐ caredic, na ddilyn yr hyn ’sy ddrwc, anyd yr hyn ysy dda: yr hwn a wna ddayoni, o Ddyw y may: a’r hwn a wna ddrygioni, ny weloð Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, eithr yr hyn sydd dda; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, ni welodd Dduw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyfaill annwyl, na chymer y drwg yn esiampl ond y da. Yr hwn sy’n gwneuthur da, o Dduw y mae; yr hwn sy’n gwneuthur drwg, nid yw wedi gweled Duw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrind annwyl, paid dilyn ei esiampl ddrwg e. Gwna di ddaioni. Y rhai sy'n gwneud daioni sy'n blant i Dduw. Dydy'r rhai sy'n gwneud drygioni ddim yn nabod Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfaill annwyl, efelycha ddaioni, nid drygioni. Y sawl sy'n gwneud daioni, o Dduw y mae; ond y sawl sy'n gwneud drygioni, nid yw wedi gweld Duw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwylyd, nac efelycha yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd dda, o Dduw y mae; yr hwn sydd yn gwneuthur yr hyn sydd ddrwg, nid ydyw wedi gweled Duw.