3 John 1:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gobeitho ydd wyf gahel dy welet ar vyr der, ac y cavvn ymddiddan eneu yn‐geneu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond gobeithio yr wyf dy weled yn ebrwydd; a gwyneb yn wyneb yr ymddiddanwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yr wyf yn gobeithio cael dy weled yn fuan a chawn siarad wyneb yn wyneb.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gobeithio dod i dy weld di'n fuan iawn, i ni gael siarad wyneb yn wyneb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n gobeithio dy weld yn fuan, a chawn siarad wyneb yn wyneb. {cf2 (1:15)} Tangnefedd i ti! Y mae'r cyfeillion yma yn dy gyfarch. Cyfarch di y cyfeillion yna, bob un wrth ei enw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr yr wyf yn gobeithio dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.