3 John 1:5 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Y caredic, ydd wyt yn gwneuthur yn ffyddlon beth bynac a wnai i’r brodyr, ac y estronieit,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Anwylyd, peth ffyddlawn yr wyt yn ei wneuthur ym mha beth bynnag a weithredi tuag at y brodyr, a hyn hefyd, a hwy yn ddieithriaid,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gyfaill annwyl, yr wyt yn ymddwyn fel credadun yn dy holl ymwneuthur â’r brodyr, a hwythau’n ddieithriaid hefyd, —
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ffrind annwyl, mae dy ffyddlondeb di'n amlwg. Rwyt ti'n helpu'r brodyr sy'n pregethu'r newyddion da, er dy fod ti ddim yn eu nabod nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gyfaill annwyl, yr wyt ti'n gwneud peth teilwng wrth wasanaethu'r cyfeillion, a hwythau'n ddieithriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Anwylyd, yr wyt yn gwneuthur gwaith ffyddlawn ym mha beth bynnag yr wyt yn ei weithredu tuag at y brodyr, ac yn enwedig a hwy yn ddyeithriaid;