3 John 1:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr ei a destiolaythen am dy gariat gerbron yr Ecclesi. Yr ei a’s hebryngy rhagddynt megis y gwedda erwydd Dyw, ys da y gwnai,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai a dystiolaethasant i’th gariad di ger bron yr Eglwys; y rhai, da y gwnai gan eu hebrwng mewn modd teilwng o Dduw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac y maent hwy wedi tystio i’th gariad gerbron yr eglwys, a da y gwnei eu rhoddi ar ben eu ffordd, yn deilwng o Dduw,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw wedi dweud wrth yr eglwys sydd yma mor garedig a hael wyt ti. Dal ati gyda'r gwaith da o'i helpu nhw ar eu ffordd fel hyn. Mae'r hyn rwyt yn ei wneud yn plesio Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent hwy wedi tystio gerbron yr eglwys i'th gariad di; da ti, rho iddynt ar eu taith gymorth teilwng o Dduw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai a ddygasant dystiolaeth i'th gariad di gerbron yr eglwys: rhagorol y gwnei os hebryngi hwynt yn deilwng o Dduw;