3 John 1:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny ni a ddlyem gan hynny dd erbyn y cyfryw rei, val y byddom ganhorthwyr ir gwirionedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nyni, gan hyny, a ddylem dderbyn y cyfryw rai, fel mai cydweithwyr y byddom â’r Gwirionedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Felly dylem ninnau groesawu rhai fel hyn, er mwyn inni fod yn gyd-weithredwyr â’r gwirionedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i'r gwirionedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dylen ni sydd yn credu roi croeso iddyn nhw yn ein cartrefi ni. Dŷn ni'n eu helpu nhw i rannu'r gwirionedd wrth wneud hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dylem ni gynorthwyo pobl o'r fath, er mwyn inni fod yn gydweithwyr dros y gwirionedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni a ddylem gan hynny gynnal y cyfryw rai, fel y byddom gyd‐weithwyr â'r gwirionedd.