Acts 1:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr ei ac a ddywesont, Ha wyr o’r Galilaia, pa sefyll ydd ych yn tremiaw tu ar nef? Yr Iesu hwn yr vn y gymerwyt y vyny dd y wrthych ir nef, a ddaw velly, yn y modd y gwelsoch ef yn mynet ir nef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
y rhai hefyd a ddywedasant, Dynion o Galilea, paham y sefwch yn edrych i’r nef? Yr Iesu hwn, yr Hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw felly, yn y modd y gwelsoch Ef yn myned i’r nef.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a dywedodd y rhain, “Wŷr Galilea, paham y sefwch yn edrych tua’r nef? Yr Iesu hwn a gymerwyd i fyny oddiwrthych i’r nef, felly y daw, y modd y gwelsoch ef yn myned i’r nef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilea, paham y sefwch yn edrych tua'r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymerwyd i fyny oddi wrthych i'r nef, a ddaw felly yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn myned i'r nef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a dweud, “Chi Galileaid, beth dych chi'n ei wneud yma yn syllu i'r awyr? Mae Iesu wedi cael ei gymryd i'r nefoedd oddi wrthoch chi. Ond yn union yr un fath ag y gweloch e'n mynd bydd yn dod yn ôl eto.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddai'r rhain, "Wu375?r Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, bydd yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd y gwelsoch ef yn myned i'r Nef.